Enw - Nicki Roderick
Swyddogaeth - Cyfarwyddwraig Cerdd / Arweinyddes
Aelod -Mehefin 2004 - aelod gwreiddiol / sefydlydd Côr Seingar
Disgrifiwch eich hun - Brwdfrydig, hwyliog a chymdeithasol
Hoff gân Seingar - Rhyfel gan Richard Vaughan
Hoff berfformiad gyda - Côr Seingar - Canu cyn y gêm rhyngwladol yn Stadiwm y Principality - Cymru v Awstralia
Profiad cofiadwy neu anghofiadwy - Côr Seingar - Stryglan i sefyll yn llonydd wrth arwain tra'n diddanu ymwelwyr mewn perfformiad ar drên 'Rheilffordd Gwili' ac ymdrechu i atal y chwerthin wrth weld y sopranos yn ceisio sefyll lan mewn 'heels' uchel!!
Diddanu mewn cartref henoed lleol a chystadlu gyda swn chwyrnu un o'r trigolion.
Profiadau diddorol -Ymweld a'r ' Cu Chi Tunnels' a ddefnyddiwyd yn ystod y rhyfel yn Vietnam. Deifio tan fôr yn y 'Blue Hole' yn Belize ac ymweld ag ogofau filltiroedd o dan ddaear yn Guatemala.
Diddordebau (heblaw am ganu) - Treulio amser gyda theulu a ffrindiau a joio gwylio ffilmiau tra'n bwyta Dairy Milk!
Sut ydych am gael eich cofio? - Person bywiog a chyfeillgar a oedd yn llawn sbort ac yn dwlu ar Gôr Seingar!!!