Cyngerdd -Neuadd San Pedr yng Nghaerfyrddin 20fed Ebrill 2024.
Yr Artistiaid gwadd oedd y tenor a’r canwr opera Robyn Lyn Evans, y Pibydd Gwyddelig Christy McCarthy a disgyblion Ysgol y Dderwen.
Lansiodd y côr gryno ddisg newydd, ‘Eilia2’, yn cynnwys 12 o draciau poblogaidd ac adnabyddus a recordiwyd yn Stiwdio Sonic One - Llangennech.
Roedd y cyngerdd yn llwyddiant ysgubol a gwerthwyd pob tocyn. Hoffai Seingar ddiolch i’r artistiaid dawnus a gefnogodd y côr yn y cyngerdd, haelioni busnesau lleol am eu nawdd caredig a’u rhoddion, cyngor y dref am ddefnydd y neuadd, y gwirfoddolwyr a gefnogodd y noson, a’r gynulleidfa werthfawrogol, llawer ohonynt yn gefnogwyr brwd i Gôr Seingar.
Siân Axford
Trefnwyd y cyngerdd er cof am aelod o’r côr, Siân Axford, a gollodd ei brwydr gyda chanser y fron. Roedd Siân yn aelod brwdfrydig a phoblogaidd o adran soprano y côr ac mae colled fawr ar ei hôl.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch i Gôr Seingar am godi swm mor anhygoel i’r Uned Ddydd Cemotherapi yng Nglangwili, mae’n deyrnged fendigedig i Siân.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i:www.hywelddahealthcharities.org.uk
Aelodau Seingar yn Rhwyfo o Iwerddon i Gymru
Anodd credu bod 15 mlynedd ers yr her yma. Rhwyfo Currach o’r enw 'Bendigeidfran' ar draws Môr Iwerddon gan godi £6,000 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Heulyn Roderick, Neil Rosser, Meredudd Jones,
Gadael harbwr Rosslare - Iwerddon
Cliciwch yma i weld yr hanes.
Llyfrau Llafar Cymru
Cyflwyno siec - £1,000 ar gyfer LLYFRAU LLAFAR CYMRU wedi perfformiad Côr Seingar a Chôr Tŷ Tawe- 'Y Croeshoeliad' gan John Stainer yng nghapel Y Priordy, Caerfyrddin - Mawrth 24ain 2019.
Diwrnod i godi ymwybyddiaeth Syndrom Down.
Mawrth 21ain 2019. Diwrnod i godi ymwybyddiaeth Syndrom Down.
Gydag Erin fach, merch i aelod o’n tenoriaid, Carwyn, gyda’r syndrom bu aelodau o’r côr yn rhannu lluniau ohonom yn gwisgo sanau arbennig, sanau lliwgar a phatrymog gyda’r arian yn mynd at gymdeithas Syndrom Down.
Gwerthwyd 140 pâr o sanau a llwyddwyd i godi £540 i Gymdeithas Syndrom Down. Rhagorol @CorSeingar, @CapelYPriordy a staff @ysgolydderwen #codiymwybyddiaeth
Ysbyty Glangwili Caerfyrddin
Penderfynodd y côr roi holl elw gwerthiant y CD sef 'Eiliad' i ward y plant - Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.
Cyflwyno Teledu i Ward y Plant sef Cilgerran - Rhagfyr 2018
Ariannwyd y rhodd gan elw cynhyrchu :-
CRYNO DDISG SEINGAR
Ar noson dywyll, gwlyb yn mis Rhagfyr, aeth Côr Seingar i ward y plant i ganu carolau ac i gyflwyno sgrîn deledu fawr yn ol dymuniady wared arbennig yma. Hoffwn fel aelodau ddatgan diolch enfawr i holl staff y ward arbennig hon, mae plant nifer o’r aelodau wedi bod ar sawl ymweliad i’r ward – adnodd amhrisiadwy.
Mae Côr Seingar yn awyddus i gefnogi elusennau lleol, sirol a chenedlaethol.
Mae'r Côr wedi cefnogi'r elusennau canlynol:-
Apêl Hosbis Tŷ Cymorth a Chapel Heol Dŵr
Cylch Meithrin Bethania, Tŷ Cymorth Caerfyrddin, Apêl Plant Mewn Angen S4C
Cymdeithas y Deillion - Caerfyrddin, Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Glangwili
Apêl Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Apêl Clefyd y Siwgr
Un o'r tenoriaid yn beicio o amgylch Cymru ac Iwerddon i godi arian tuag at Apel Ambiwlans Awyr Cymru.
Caerfyrddin - Abergwaun- Rosslare- Dulyn- Caergybi- Dolgellau - Caerfyrddin
Roedd Heulyn yn rhan o dím o 7 o feicwyr profiadol a wnaeth gyflawni'r daith o 350 milltir mewn 4 diwrnod.
Heulyn Roderick
Heulyn Roderick
Apêl Hosbis Tŷ Cymorth a Chapel Heol Dŵr
Apêl Hosbis Tŷ Cymorth a Chapel Heol Dŵr - £2273
Cyngerdd Lawnsio Cryno Ddisg Newydd Seingar - EILIAD + Y Ddau Fariton,
Eleri Owen Edwards a Meinir Jones Parry
Capel Heol Awst
Cyflwyno siec o £250 i Gylch Meithrin Bethania –
Yn y llun gwelir rhai aelodau’r cor, Iwan Evans, Delyth Jones, Lois Gibbon a Nicky Roderick yn cyflwyno siec o £250 i Enfys Spiers, arweinydd y Cylch a Christine Jones, cadeirydd pwyllgor y Cylch.
Yn y llun (chwith i’r dde):Trefor Jones (Cadeirydd), Mwynwen Jones (Trysoryddes), Nicki Roderick (Arweinyddes), Catherine Davies (Ysgrifenyddes) yn cyflwyno Siec - £2,000 i 'r Parchedig Beti Wyn James yn dilyn Cyngerdd a drefnwyd gan Côr Seingar tuag at Apêl Tref Caerfyrddin, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr
Mae’r Côr am ddiolch o galon i Faer y dref,am ein ganiatad i ddefnyddio’r neuadd yn ddidal. Hyn yn golygu bod yr holl elw sef £1000 yn medru ei rannu rhwng dau elusen teilwng iawn sef - 'Breakthro' Caerfyrddin a phrosiect Cymorth Cristnogol Burkina Faso - Gogledd Orllewin Affrica.
Cynhaliwyd cyngerdd cyntaf Côr Seingâr ar nos Sul 13eg o Fawrth 2005 yng Nghapel Heol Dŵr, Caerfyrddin, gydag artistiaid o Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa hefyd yn cymryd rhan.
Pleser oedd medru cyflwyno siec gwerth £1,100 i 'Tŷ Cymorth Caerfyrddin' - elw'r noson lwyddiannus honno. Hoffai Côr Seingar ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a ddaeth i gefnogi’r Côr a'r achos teilwng hwn.
Yn y llun, gwelir Nicki Roderick, arweinyddes Côr Seingâr yn cyflwyno’r siec i Mr Brian James (Cadeirydd/Trysorydd Tŷ Cymorth Caerfyrddin.)
llun (chwith i’r dde): Dr Dewi Owen (Llywydd y noson), Mrs Jean Evans, Mr Brian James (Cadeirydd/Trysorydd Tŷ Cymorth), Mrs Wendy Evans, Mrs Non Owen, Mr Harry Lloyd, Mrs Mary Griffiths, Nicki Roderick (Arweinyddes Côr Seingâr), Meredudd Jones, Heledd ap Gwynfor.