Côr Seingar
Côr Seingar
CEFNDIR
Ffurfiwyd Seingar, sef côr cymysg cymunedol sydd wedi ei leoli yn Nhref Caerfyrddin, ym mis Mehefin 2004 gan y gyfarwyddwraig cerdd Nicki Roderick.
Dros yr un flynedd ar hugain ddiwethaf gwelwyd Seingar yn tyfu, datblygu ac esblygu i fod yn gôr dynamig a phrysur sy’n cefnogi’r gymuned leol drwy ddiddanu a pherfformio mewn ystod eang o weithgareddau ynghyd a chefnogi elusennau niferus.
Mae’r côr, sydd wedi ennill enwogrwydd drwy gystadlu’n llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn darparu amrywiaeth eang o drefniannau traddodiadol a chyfoes.
I ddathlu pen-blwydd y côr yn 10 mlwydd oed yn 2014, recordiwyd Cryno Ddisg sef ‘Eiliad’, sy’n cynnwys gwaith comisiwn gan y cyfansoddwr Eric Jones a’r awdures a’r bardd Catrin Dafydd.
Graddiodd y Gyfarwyddwraig Cerdd, Nicki Roderick o Brifysgol Caerdydd gyda gradd B.Mus. Anrhydedd ym 1995, ac mae wedi bod yn athrawes Gerdd ers 23 o flynyddoedd. Yn gyfredol mae’n Bennaeth Cerddoriaeth mewn adran lewyrchus yn Ysgol Maes y Gwendraeth, Sir Gâr. Yn enedigol o Frynaman, mae hi’n feirniad profiadol lleol a Chenedlaethol.
Cyfeilyddes Seingar yw Elin Mair Rees, a raddiodd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth o Brifysgol Bangor. Mae Elin yn gweithio i gwmni teledu Telesgop yn Abertawe, ac yn mwynhau cyfeilio i amryw o gantorion.
Yn 2024 er mwyn dathlu’r 20 mlynedd fe wnaeth Seingar ryddhau ei hail cryno ddisg sef 'Eilia2' ynghyd a threfnu cyngerdd yn Neuadd San Pedr Caerfyrddin i nodi’r achlysur arbennig yma.
BACKGROUND
Seingar, formed in June 2004 by the musical director, Nicki Roderick, is a community choir based in the town of Carmarthen.
During the past 21 years Seingar has grown, developed and evolved into a dynamic and busy choir that supports the local community through performing in concerts, entertaining in a wide variety of functions along with supporting numerous charities.
The choir has gained notoriety by successfully competing in local, regional and national Eisteddfodau and has a wide and varied repertoire, including traditional and contemporary arrangements.
To celebrate the choir’s 10th anniversary, in 2014 a CD ‘Eiliad’ was produced and recorded including a commissioned work by the local composer Eric Jones along with author and poet Catrin Dafydd.
The Musical Director, Nicki Roderick who gained a BMus Hons. degree at Cardiff University in 1995, has been a music teacher for 23 years and is currently the head of a thriving music department at Ysgol Maes y Gwendraeth, Carmarthenshire. Originally from Brynamman, she is an experienced local and national adjudicator.
Seingar’s accompanist is Elin Mair Howells, who graduated in Welsh and Music from Bangor University. Elin works for the Telesgop television company in Swansea and enjoys accompanying for various vocal artists.
In 2024, to celebrate the 20th anniversary, Seingar released a second CD, 'Eilia2', as well as organising a concert at St Peter's Hall, Carmarthen, to mark this special occasion.
Os ydych am brofi nos Fawrth ddifyr ymunwch â ni i ymarfer yn festri Capel Y Priordy, Caerfyrddin am 7.30.
PENBLWYDD HAPUS - 20 OED
Yn ystod 2024 mae Seingar yn dathlu penblwydd - 20 oed. Anodd credu bod y côr wedi bod mewn bodolaeth ers 2004!
Edrychwch allan am ein Cryno Ddisg newydd i nodi'r garreg filltir nodedig yma.
Cliciwch yma am ragflas. https://youtu.be/7DChsvagA7k
Cafwyd cyngerdd nodedig i ddathlu'r achlysur arbennig yma Nos Sadwrn, Ebrill 20fed 2024.