Cryno Ddisg Côr Seingar
'Eilia 2'
'Eilia 2'
Dyma ail gryno ddisg Côr Seingar, sydd yn coroni 20 mlynedd o ddiddanu cynulleidfaoedd yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt gyda’u repertoire amrywiol a phoblogaidd.
Mae’r gryno ddisg hon yn gasgliad o rai o ffefrynnau’r côr, a cheir yma ganeuon llon, lleddf, a bywiog.
Cliciwch isod i gael blas ar yr arlwy gerddorol sydd ar y Gryno Ddisg.
Mae Seingar yn gymuned o ffrindiau da sydd hefyd yn mwynhau canu – cymerwch 'Eilia2' i gael blas ar gymeriad y côr drwy gyfrwng y caneuon hyn.
O dan arweiniad medrus Nicki Roderick ac i gyfeiliant dawnus Elin Mair Howells ac Anwen Evans ar y piano, mae Seingar yn gôr cymysg o 50 o leisiau o Gaerfyrddin.
Mae Côr Seingar yn cefnogi eisteddfodau, codi arian tuag at elusennau a diddanu mewn cyngherddau, priodasau a digwyddiadau amrywiol yng Nghymru a thu hwnt.