Er cof am aelod ffyddlon a ffrind annwyl i bawb.
Cymeriad egniol a byrlymus a'i brwdfrydedd a'i hwyl yn heintus. Nid oes geiriau...
Siân Axford
Mae yna wagle enbyd wedi ei adael ymhlith aelodau Côr Seingar. Gyda thristwch mawr yr ydym oll yn cydymdeimlo â theulu Siân Axford a fu farw ar Awst 24ain 2021. Roedd Siân yn aelod ffyddlon o’r Côr ac yn ffrind annwyl iawn i ni ers dros ddegawd.
Cefnogodd waith y Côr yn selog ac yn gydwybodol ac roedd bob amser yn barod ei chymwynas. Byddwn yn gweld eisiau’r wên garedig, y sgwrsio diddorol, a'r hwyl a'r sbri a oedd yn gysylltiedig â hi bob amser.
Roedd hi’n gaffaeliad mawr i ni fel Côr, i’r ysgol lle roedd hi’n dysgu, ac i dref Caerfyrddin. Hoffwn estyn ein cydymdeimladau dwysaf at Richard, Carwyn a Tomos a'r teulu i gyd, ar ran holl aelodau Côr Seingar.
Seingar yn newid gwisg a delwedd yn 2018!
Llun gan PhotosCymru.com 2018
Caron Thomas - Meistres y Gwisgoedd
"Mae'n hen bryd i Seingar gael gwisg a delwedd newydd. Navy a Nude amdani!"
Mae’r flwyddyn 2018 wedi bod yn un prysur a llwyddiannus iawn i’r côr – ac rydym wedi mwynhau pob eiliad!
Mae’r Côr wedi cystadlu mewn nifer o eisteddfodau yn lleol ac yn genedlaethol, gan fod yn ddigon ffodus cael cyntaf yn eisteddfodau Llangadog a Llandudoch, ac i goroni’r cyfan cael trydydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd.
Profiad hyfryd oedd cael canu ar lwyfan Theatr Donald Gordon a chael derbyn canmoliaeth am ganu Yr Oenig ac O Fab y Dyn. Derbyniom ganmoliaeth hefyd am fod yr unig gôr i beidio gwisgo du o’r 7 côr fu’n cystadlu! Mae Côr Seingar bellach â gwisg newydd – nêfi a nude / brown.
Rydym wedi canu mewn nifer o gyngherddau yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal â chanu yng nghyngerdd drefnwyd gan Coda Ni yn y Priordy yng nghwmni’r canwr Cristnogol Garth Hewitt, roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o ddathliadau papur Cwlwm yn ddeugain a chael rhannu llwyfan a chân gyda Caryl Parry Jones, tra’n canu cân gyfansoddwyd gan ei thad, Rhys Jones, O Gymru wrth gwrs.
Arwr arall yn y byd canu Cymraeg bu’r côr yn rhannu llwyfan ag e, yw Dafydd Iwan. Buom yn canu ar raglen arbennig o Noson Lawen yn dathlu penblwydd arbennig Dafydd Iwan.
Gwych iawn oedd cael gŵyl Gymraeg yn y dref yn ystod yr haf eleni, ac roeddem wrth ein bodd fel côr i gael cymryd rhan ar brif lwyfan Gŵyl Canol Dre.
Noson tra wahanol oedd canu yng nghlwb criced Bronwydd i gynulleidfa o gricedwyr o Awstralia. Fe ddychwelom i Bronwydd am yr ail waith, i ganu ar y trên stêm mewn noson ‘Gymreig’ – profiad eithaf unigryw oedd cyd-sefyll i ganu a’r trên yn symud nôl a blaen!
Derbyniom wahoddiad i ganu mewn cwrdd diolchgarwch yn Pandy fu’n hyfryd iawn. Yna ddiwedd fis Hydref, buom yn canu yn nathliadau agor Canolfan Yr Egin yn y dref ac yna cerdded lan o ganol y dref i’r Ganolfan.
Dechrau fis Tachwedd buom yn canu yn Theatr y Lyric mewn cyngerdd arbennig i goffau’r rhyfel byd cyntaf yng nghwmni Shan Cothi, Cor Meibion Dunvant, Grŵp Celfyddydau Perfformio Dancerama, Band Pibau Abertawe a Chorfflu Drymiau Sgwadron 215 Abertawe.