Enw - Jenny Jones
Llais - Alto
Swyddogaeth -
Aelod -ers 2018
Disgrifiwch eich hun - Athrawes sy’n joio crwydro’r arfordir, gwylio ambell fachlud haul a theithio.
Hoff gân Seingar - Methu dewis dim ond un (ddim yn syndod i weud y gwir!) ond Cod i Ddeffro, Rhythm y Ddawns, O Fab y Dyn a Rhyfel.
Hoff berfformiad gyda - Côr Seingar - Eisteddfod Tregaron – heb fod ar lwyfan eisteddfodol yn cystadlu ers sbel!
Profiad cofiadwy neu anghofiadwy - Côr Seingar - Canu ar gae stadiwm y Principality cyn gem Cymru v Awstralia. Hyfryd cael canu o flaen ein 74,000 o ffans!
Profiadau diddorol -Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael profiad o fyw yng Nghanada ac ym Mhatagonia. Rhaid dweud, roedd cael hedfan mewn balwn awyr poeth hefyd yn brofiad diddorol – ond yng Nghymru oedd hwnnw!
Diddordebau (heblaw am ganu) - Crwydro Llwybr Arfordir Cymru (695milltir wedi’i wneud – 175 ar ol!); teithio; ffliwtan, chwarae criced a chwrso machludau haul.
Sut ydych am gael eich cofio? -Fel rhywun sy’n treial cael y mwyaf allan o fywyd ac sy’n manteisio ar bob cyfle.