|
Côr Seingar |
|---|---|
| Newyddion |
| Hafan | Dyddiadur | Swyddogion | Aelodau | Newyddion | Elusennau | Cysylltu â’r Côr | Lluniau |
|---|
![]() |
Swyddog Marchnata |
Newyddion Côr Seingar | Swyddog Marchnata | ![]() |
|---|---|---|---|---|
![]() |
![]() |
|||
| Heledd ap Gwynfor | Catrin Howells | |||
Hydref 2010 Canu yn agoriad y Cwpan Ryder |
||||
![]() |
||||
| Yn ddiweddar perfformiodd Seingar yn neuadd goffa Llanpumsaint. Fe’n gwahoddwyd gan bwyllgor y neuadd i gymryd rhan yng nghwmni John Clocs fel arweinydd y noson, Llinos Thomas yn canu soprano, a dau aelod o’n côr, Lewis Richards a Nia Ann hefyd yn canu fel unawdwyr, gyda Rhys James yn chwarae’r gitar. Gobeithio i drigolion Llanpumsaint godi cyfran dda o arian er mwyn cwblhau’r gwaith gyda’r mynedfa newydd! Mae blwyddyn yn hedfan, ac erbyn hyn rydym wedi cynnal ein cyfarfod blynyddol ac wedi ethol Lewis Richards fel cadeirydd gyda Mark Colman fel is-gadeirydd. Pob lwc! Edrychwn ymlaen at barhau i ganu mewn cyngherddau ar draws y sir - cofiwch gysylltu os hoffech inni gymryd rhan yn lleol, neu os hoffech fynychu un o’n hymarferion rywbryd! Byddwn yn canu wrth droi goleuadau Nadolig y dref ymlaen ym mis Tachwedd - welwn ni chi ’na! |
||||
Mawrth 2010 Mae 2010 wedi dechrau’n gymharol fishi i Gôr Seingar, ac yn argoeli i barhau felly. Braint oedd cael canu mewn cyngherddau elusennol yn Llanymddyfri a Llanboidy, a braint arbennig yw cael ein gwahodd i ganu darn comisiwn yn Theatr y Lyric ar y cyntaf o Ebrill. Darn a gyfansoddwyd gan Andrew Powell ac ysgrifenwyd gan y bardd nodedig o Landysul, Menna Elfyn yw Y Dyn Unig, ac mae wedi cynnig sialens hyfryd i’r côr. Byddwn yn dychwelyd i ganu yn y Lyric eto yn mis Mai, pan y bydd Theatr y Sherman yn dod yno i berfformio eu drama newydd, Llwyth (Tribe). Gofynwyd i Gôr Seingar i gymryd rhan yn y ddrama, a disgwyliwn ymlaen cael rhanu’r llwyfan gyda rhai o actorion nodedig Cymru. Mae gennym gyngherddau eraill ar y gweill gan gynnwys un yn Llanfihangel ar Arth a Llanpumsaint yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ac rydym bob amser yn croesawi gwahoddiadau. Hoffwn longyfarch nifer fach o’r aelodau sydd wedi dod yn famau yn ddiweddar, mae hyn yn arbennig o wir ymhlith y sopranos! Os oes gennych chi lais canu da, pam na ddewch chi draw i ymuno yn un o’n hymarferion – yn arbennig os oes ganddoch lais soprano i gael llenwi sgidie’r rheiny sydd ar famolaeth!! |
||||
Hydref 2008 Côr Seingâr – Y Piano wedi cyrraedd! Diolch yn bennaf i gefnogaeth pobol leol ddaeth i gefnogi ein cyngerdd blynyddol yn Neuadd San Pedr eleni, ac i aelodau’r côr fu’n chwysu wrth wthio’r hen biano yr holl ffordd o Gaerfyrddin i Landeilo, casglwyd digon o arian i allu prynu piano newydd i Gôr Seingâr. Y mae’n biano trydanol, hawdd i’w chario o gyngerdd i gyngerdd pe dymunid gwneud, ac yn bwysicaf siŵr o fod, yw ei bod wrth fodd ein cyfeilyddes, Kim Morgans – ac wrth gwrs, aelodau y Côr! Doedd dim angen mynd â’r piano gyda ni i’n cyngerdd cyntaf ar ôl ail ymuno wedi gwyliau’r haf, cynhaliwyd y gyngerdd honno yn neuadd bentref Bancffosfelen lle y maent hwy wedi cael piano newydd yn ogystal. Yr ydym fel aeloda’r côr, am ddiolch unwaith eto i rhai o fois Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa am ymuno gyda ni ar gyfer y noson honno. Hoffwn apelio yma ar fois ardal Caerfyrddin – y mae gennym brinder baswyr, a thenoriaid yn bennaf. Mae croeso i chi ddod i un o’n hymarferion a chael gweld os ydych am barhau a’i peidio! Byddwn yn cynnal noson i ddarpar aelodau newydd ar nos Fawrth Hydref 21ain yn cwrdd yn nhafarn y 3 Eog, Heol Dwr, Caerfyrddin am 7yh cyn symud i’r festri i ddechrau ar ymarfer ysgafn. Hoffwn fel aelodau’r cor longyfarch un o’n tenoriaid am wneud mor dda yng ngemau’r Paralympaidd yn Beijing yn ddiweddar. Fe gystadlodd Steffan Hughes fel tywysydd i Tracey Hinton gan ddod yn bedwerydd. |
||||
Tachwedd 2007 Côr Seingâr – trip, cyfeilydd a phethau eraill... Nadolig Llawen!! Efallai ei bod yn rhy gynnar i ddymuno Nadolig Llawen eto, ond dyna bu’r côr yn ei wneud ar sgwâr Caerfyrddin ar nos Wener 19eg o Dachwedd. Fe’n gwhoddwyd i ymuno yn nathliadau troi goleuadau Nadolig y dref ymlaen ymhlith llu o artistiaid eraill. Roedd y sgwâr dan ei sang, ac fe gawsom ganu rhai carolau Nadolig am y tro cyntaf eleni. Roedd hi’n noson fendigedig o ganu, tân gwyllt a mins peis, cyn i aelodau’r côr symud ymlaen at glwb y Cwins er mwyn lansiad albwm newydd Fflur Dafydd a’r Barf. |
||||
Trip y côr - Mehefin 2007 Ychydig cyn i holl rialtwch y Nadolig ddechrau, fe fu’r côr ar wyliau, sef penwythnos i Gaerloyw. Roedd hi’n ystod y cyfnod gwlyb ofnadwy gawsom rhai misoedd yn ôl. Wnaeth hi ddim stopio bwrw yr holl amser oeddem yno, rhyw bythefnos wedi’r trip roedd y sir o dan ddŵr! Ond doedd yr holl law ddim yn ddampner ar ein hymweliad gan y gwnaethom dreulio llawer o’r amser dan dô ta beth! Siopa wnaeth y merched gan fwyaf, chwarae cardiau wnaeth y bechgyn, ond gyda’r nos byddem yn canu ffwlpelt yn y dafarn leol. Derbyniom llu yn gofyn am ganeuon – ‘Gwŷr Harlech’, ‘Calon Lân’, ‘Ar Hyd y Nos’ ayb! Gadawsom y dafarn honno £20 yn gyfoethocach a gadawsom Gaerloyw wedi llwyr ymlâdd! |
||||
Cyfeilydd newydd i Seingar |
![]() |
|||
Trist oedd gorfod gadael Geraint i fynd fel cyfeilydd pen’i gamp y côr – y mae’n dechrau ar gwrs gradd newydd, a phob lwc iddo yn ei waith. Buom am gyfnod byr yn chwilio am gyfeilydd newydd, a gwych oedd gallu croesawu Kim Morgans o Gaerfyrddin fel ein cyfeilydd newydd. Yn wreiddiol o Gwm Garw ger Penybont ar Ogwr, derbyniodd Kim ei haddysg yn Ysgol Gymraeg Maesteg ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Cerddoriaeth. Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf erioed yno i ennill gradd mewn cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Forgannwg i ddychwelyd i’r coleg fel myfyrwraig ôlraddol, a derbyniodd radd MA gyda chlod uchel, yn y Celfyddydau Perfformio. Mae Kim hefyd yn canu’r delyn ac mae wedi ennill gwobrau sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n mwynhau cyfeilio, ac mae wedi gweithio gyda nifer o gorau yn y gorffennol, yn eu plith Côr Caerdydd, Parti Bro Ogwr, Merched Y Fro a Chôr Bach Abertawe . Mae wedi teithio’n helaeth yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau gyda’r corau hyn. Mae hefyd wedi bod yn un o gyfeilyddion swyddogol Eisteddfod yr Urdd, a bu’n Delynores yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998. Rydym yn falch ofnadwy o gael Kim i gyfeilio i Gôr Seingâr, mae’n brysur iawn hefyd yn cyfeilio i Gôr Merched Canna yng Nghaerdydd. |
||||
Newyddion Ionawr 2007 Perfformiad cyhoeddus cyntaf Côr Seingar yn 2007 oedd ymddangosiad ar raglen 'Noson Lawen' yn ddiweddar. Roedd y merched yn enwedig wedi mwynhau'r profiad o rannu llwyfan â Ryland Teifi! Disgwyliwn ymlaen at dymor prysur arall. Diolchwn i bob un am ein gwahodd i ganu yn eu mysg y llynedd, yn ogystal â'r gefnogaeth gyson yn lleol. |
||||
Côr Seingar yn taro'r nodyn cywir Newyddion Awst - Rhagfyr 2006 Mae'n siwr mai cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe fu pinacl 2006 i'r côr. Roedd hi'n brofiad cyntaf gwerthfawr ac roedd y gwyliau haf a ddilynodd i'w croesawi, yn enwedig i'r holl athrawon yn ein mysg. Bu'r côr yn hynod falch o gynnal cyngerdd ym mis Hydref er mwyn codi arian i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gâr eleni. Roedd Neuadd San Pedr dan ei sang a phawb wedi mwynhau gwledd o ganu gan y côr ac eitemau gan Nia Ann Davies, Siôn Owen, Fflur Dafydd a'r Barf a Lowri Evans. Rhwng miri ocsiwn Derfel Jones a gwerthiant y tocynnau a'r raffl, braint y Parch. Beti Wyn James oedd datgan mai'r cyfanswm a gasglwyd ar y noson oedd £2,000. Yn ystod mis Hydref a Thachwedd bu'r côr yn cymryd rhan mewn cyngherddau yng Nghapel Newydd Llanddarog, Noson Lawen yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr a chymanfa ganu Capel Peniel o dan arweiniad Nicki Roderick. Croesawyd y côr i ganu mewn cy ngerdd tuag at Apêl Clefyd y Siwgr yng Nghapel Heol Awst, Caerfyrddin ar ddiwedd mis Tachwedd. Dyma gyngerdd olaf ein cyfeilydd, Geraint Williams. Gwelwn ei eisiau yn fawr a hoffwn ddymuno pob dymuniad da iddo. Braf hefyd oedd cael bod yn rhan o ddathliadau Nadolig tref Caerfyrddin lle bu'r côr wrthi'n canu carolau ar Sgwâr Nott yng nghanol halibalw'r siopwyr. A pha gwell fodd o orffen y flwyddyn na gyda gwledd, dawns ac ambell wydraid o win yng Ngwesty Pant-yr-athro. |
||||
Newyddion Côr Seingar - Ebrill / Mai / Mehefin 2006 Wedi seibiant yn ystod mis Mawrth, cafodd Seingâr dri mis prysur, ynghyd â datblygiadau pwysig yn hanes y côr... ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan. Dechrau'r cyfnod prysur oedd gwahoddiad i ddiddanu yn noson y gwragedd - Cylch Cinio Llanbedr Pont Steffan yng Ngwesty'r Llew Du, Llambed nos Iau 6 Ebrill. Cafwyd noson lwyddiannus iawn a diolchwyd i'r côr yn ddiffuant gan Mr Twynog Davies. Yn dilyn hyn cafwyd ychydig wythnosau o ymarfer dwys gogyfer â début Seingâr ar y llwyfan eisteddfodol yn Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ar Ddydd Sadwrn 29ain Ebrill. Roedd disgwyl eiddgar am y gystadleuaeth a chyfle i gael canu ym Mhafiliwn enwog y Bont, oedd ar ei newydd wedd wedi cyfnod o adnewyddu. Braf yw cael adrodd y profwyd cryn llwyddiant, gyda'r côr yn cipio'r drydedd wobr ar ei ymddangosiad eisteddfodol cyntaf a chafwyd beirniadaeth galonogol iawn gan Huw Tregelles Williams. Yna, mewn i fis Mai ac agosáu oedd perfformiad pwysig iawn yn ein hanes - sef ein ymddangosiad ar y rhaglen deledu boblogaidd Noson Lawen yng Nghanolfan Hamdden Llandysul, nos Fercher 10fed Mai. Roedd y ganolfan yn orlawn (a thwym) a chawsom dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa a chyfle i rannu llwyfan gydag artistiaid megis Ryland Teifi a Trebor Edwards, ymysg eraill. Edrychwch allan amdanom ar y gyfres newydd sy'n dechrau yn yr Hydref! Daeth y mis i ben gyda pherfformiad yn Eisteddfod Llandudoch ar nos Sadwrn 20fed Mehefin. Unwaith yn rhagor cafwyd perfformiad da a chipiwyd y drydedd wobr. Daeth terfyn i'r perfformio ym mis Mehefin, gyda'r côr yn diddanu Cymdeithas Papur Llafar y Deillion yng ngwesty Pant-yr-Athro ar nos Fawrth 6ed Mehefin gan fod y papur yn dathlu 30 mlynedd o wasanaeth. Dymuna Seingâr ben-blwydd hapus iawn iddynt a phob llwyddiant i'r dyfodol. Dilynwyd hwn gyda pherfformiad ar nos Sul 11eg Mehefin yng Nghymanfa Fodern Gwyl y Drindod, ynghyd â Chôr Ysgol Y Dderwen, aelodau Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi a Catrin Price ar y ffliwt. Roedd capel y Drindod o dan ei sang a chafwyd noson wych. Bellach mae'r côr wedi troi ei olygon tuag at ein taith flynyddol yng Ngorffennaf (Caerfaddon amdani eleni!) ac yna Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r cylch yn Awst. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Seingâr, cysylltwch â'r arweinydd Nicki Roderick ar seingar@hotmail.co.uk neu dewch i'n hymarferion a gynhelir 8pm bob nos Fawrth yn festri Capel Heol Dŵr, Caerfyrddin. |
||||
Newyddion Côr Seingar - Ionawr / Chwefror 2006 Prysur iawn yw 2006 wedi bod i Gôr Seingâr hyd yn hyn. Bron yn syth ar ôl dechrau ein hymarferion ym mis Ionawr wedi toriad y Nadolig cafwyd clwstwr o gyngherddau ym mis Chwefror. Y cyntaf oedd gwahoddiad i ddiddanu canghennau Merched y Wawr Abernant, Peniel a Chaerfyrddin yn festri Capel y Priordy, Caerfyrddin ar nos Fercher 8 Chwefror. Rhoddodd y gyngerdd gyfle i Seingâr ganu unwaith eto wedi egwyl y Nadolig a chyfle i berfformio ambell i eitem newydd. Yn ogystal i'r canu, cafwyd anerchiad gan Mrs Glenys Thomas, Cadeirydd Cenedlaethol Merched y Wawr a chawsom groeso twymgalon gan yr holl aelodau - a llond trol o fwyd ar ôl perfformio! Diolch o galon i bob un ohonynt. Yr wythnos ganlynol, daeth cyfle i berfformio unwaith yn rhagor wrth i'r côr deithio i Borth Tywyn i berfformio ar gyfer Cymdeithas Cymrodorion Porth Tywyn yng Nghapel Jerusalem . Yn ogystal â Chôr Seingâr, cafwyd perfformiadau graenus gan Gôr Plant Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn o dan arweiniad Mr Gary Anderson, gyda Siân Lewis (aelod o Seingâr) sydd hefyd yn dysgu yn Ysgol Parc y Tywyn yn cyfeilio iddynt. Yn ogystal i arwain y côr plant, bu Gary Anderson hefyd yn diddanu'r gynulleidfa gydag eitemau unawdol graenus, gyda Mr Geraint Williams, cyfeilydd Côr Seingâr wrth y piano. Fe fydd gan y côr seibiant o'r llwyfan cyngherddol am ychydig, ond nid yw'r côr yn bwriadu bod yn segur. Fe fydd yr wythnosau nesaf yn gyfnod prysur o ddysgu darnau newydd gogyfer â chystadlu mewn nifer o eisteddfodau yn ystod y Gwanwyn a'r Haf. |
||||
Newyddion Côr Seingar - Tachwedd / Rhagfyr 2005 Fel ag y disgwyliwyd, Tachwedd a Rhagfyr prysur tu hwnt a gafodd Côr Seingâr. Ar nos Wener 18 Tachwedd cawsom y pleser o fod yn rhan o ddathliadau BBC Radio Cymru ar gyfer Plant mewn Angen, yn fyw o Neuadd San Pedr Caerfyrddin gyda Siân Thomas yn arwain y noson. Ymysg yr artistiaid eraill oedd Ifan Gruffudd, Rhian Mair Lewis a Tara Bethan a chafwyd noson hwyliog dros ben. Nos Wener 2 Rhagfyr, bu’r côr yn diddanu yn Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili i aelodau Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin. Arweinydd y noson oedd Heward Rees. Lleoliad hyfryd a phrofiad arbennig i gael canu mewn acwstig mor fendigedig. Yna daeth y noson fawr ar nos Wener 9 Rhagfyr, sef cyngerdd Nadolig Seingâr ar wahoddiad Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghapel y Tabernacl, Caerfyrddin i godi arian at yr achos teilwng hwnnw. Perfformiodd y côr nifer o ddarnau newydd yn ogystal â rhai darnau Nadolig traddodiadol. Cafwyd perfformiadau ychwanegol graenus gan Nia Davies, soprano; dwy garol gan bedwarawd o ferched y côr, yn ogystal â darlleniad Nadoligaidd gan Heulyn Roderick . Yn ôl yr arfer, Elgan Davies-Jones, Cadeirydd y côr oedd yn llywio’r noson. Y diwrnod wedyn, Sadwrn 10 Rhagfyr bu’r côr yn diddanu ar y stryd i’r torfeydd o siopwyr yn nhref Caerfyrddin fel rhan o Ŵyl Nadolig Caerfyrddin. Wrth lwc bu’r tywydd yn garedig i ni ac aethom yn ein blaenau mewn hwyl dda y noson honno i fwyty’r Tanerdy ar gyfer ein cinio Nadolig. Cyfle i ymlacio tipyn ar ôl cyfnod reit brysur. Er hyn, nid oedd gwaith y côr ar ben am y flwyddyn, a buom yn perfformio mewn cyngerdd i godi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007 yng Nghapel Newydd Llandeilo gyda Chôr Bois y Castell a Rhian Mair Lewis ymysg yr artistiaid. Diolch i’r trefnwyr am y gwahoddiad a braf oedd cael canu mewn capel a oedd dan ei sang. Hoffai Côr Seingâr ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod blwyddyn gyntaf y côr ac edrychwn ymlaen i’ch diddanu eto yn 2006. |
||||