|
Côr Seingar |
|---|---|
| Elusennau |
| Hafan | Dyddiadur | Swyddogion | Aelodau | Newyddion | Elusennau | Cysylltu â’r Côr | Lluniau |
|---|
Cynhaliwyd cyngerdd blynyddol Côr Seingar eleni eto yn Neuadd San Pedr ar Ebrill 1af 2011. Cafwyd gwledd o gerddoriaeth gan yr artistiaid canlynol Côr Seingar, Robyn Lyn, Only Boys Aloud (Crosshands) Disgyblion Ysgol Y Dderwen a Sipsi Gallois. Marc Griffiths (BBC Radio Cymru) Mae’r Côr am ddiolch o galon i Faer y dref,am ein ganiatad i ddefnyddio’r neuadd yn ddidal. Hyn yn golygu bod yr holl elw sef £1000 yn medru ei rannu rhwng dau elusen teilwng iawn sef - 'Breakthro' Caerfyrddin a phrosiect Cymorth Cristnogol Burkina Faso - Gogledd Orllewin Affrica.
|
|
|---|---|
'Breakthro' Caerfyrddin |
Burkina Faso - Gogledd Orllewin Affrica. |
Mae Côr Seingar yn awyddus i gefnogi elusennau lleol, sirol a chenedlaethol. Yn ddiweddar bu'r Côr yn cefnogi'r elusennau canlynol:- Cylch Meithrin Bethania, Tŷ Cymorth Caerfyrddin, Apêl Plant Mewn Angen S4C 2005 Cymdeithas y Deillion - Caerfyrddin, Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Glangwili Apêl Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007, Apêl Clefyd y Siwgr 2006 |
|
![]() |
|
Cyflwyno siec o £250 i Gylch Meithrin Bethania – Yn y llun gwelir rhai aelodau’r cor, Iwan Evans, Delyth Jones, Lois Gibbon a Nicky Roderick yn cyflwyno siec o £250 i Enfys Spiers, arweinydd y Cylch a Christine Jones, cadeirydd pwyllgor y Cylch. |
|
![]() |
|
Yn y llun (chwith i’r dde):Trefor Jones (Cadeirydd), Mwynwen Jones (Trysoryddes), Nicki Roderick (Arweinyddes), Catherine Davies (Ysgrifenyddes) yn cyflwyno Siec - £2,000 i 'r Parchedig Beti Wyn James yn dilyn Cyngerdd a drefnwyd gan Côr Seingar tuag at Apêl Tref Caerfyrddin, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr 2007
|
|
Cynhaliwyd cyngerdd cyntaf Côr Seingâr ar nos Sul 13eg o Fawrth 2005 yng Nghapel Heol Dŵr, Caerfyrddin, gydag artistiaid o Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa hefyd yn cymryd rhan. Pleser oedd medru cyflwyno siec gwerth £1,100 i 'Tŷ Cymorth Caerfyrddin' - elw'r noson lwyddiannus honno. Hoffai Côr Seingar ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a ddaeth i gefnogi’r Côr a'r achos teilwng hwn. Yn y llun, gwelir Nicki Roderick, arweinyddes Côr Seingâr yn cyflwyno’r siec i Mr Brian James (Cadeirydd/Trysorydd Tŷ Cymorth Caerfyrddin.) |
|
![]() |
|
Yn y llun (chwith i’r dde): Dr Dewi Owen (Llywydd y noson), Mrs Jean Evans, Mr Brian James (Cadeirydd/Trysorydd Tŷ Cymorth), Mrs Wendy Evans, Mrs Non Owen, Mr Harry Lloyd, Mrs Mary Griffiths, Nicki Roderick (Arweinyddes Côr Seingâr), Meredudd Jones, Heledd ap Gwynfor. |
|