Cor Seingar

Côr Seingar
Cyngerdd San Pedr 2008
Hafan Dyddiadur Swyddogion Aelodau Newyddion Elusennau Cysylltu â’r Côr Lluniau

Cynhaliwyd cyngerdd blynyddol Côr Seingar eleni eto yn Neuadd San Pedr ar y 23ain o Fai 2008. Cafwyd gwledd o gerddoriaeth a chwerthin am bris tocyn £7 yn unig – arian sydd i’w ranu rhwng y côr er mwyn prynu piano newydd, â Chylch Meithrin Bethania.

Noson o ganeuon o’r sgrîn fawr a’r sioeau llwyfan oedd y thema. Mae’r Côr am ddiolch i Faer y dref, Mr Aled Prys Williams, am ein caniatau i ddefnyddio’r neuadd. Dywedodd Mr Williams:Roedd hi’n wledd o noson ac yn lwyfan i dalent lleol. Braf oedd gweld neuadd San Pedr yn llawn.

Mark Griffiths
Cor Seingar
Iwan
Mark Griffiths - BBC Radio Cymru - Cyflwynydd y noson
Côr Seingar
Iwan ' Llangain'

Arweinydd y noson oedd Marc Griffiths, Radio Cymru. Syndod oedd clywed mai dyma’r tro cyntaf iddo arwain cyngerdd, gan iddo fod mor gyfforddus gyda’r meicroffon yn cyflwyno jôcs ynghyd â chyflwyno’r perfformwyr. Noson o ganeuon o’r sgrîn fawr a’r sioeau llwyfan oedd y thema. Canodd Côr Seingar llu o ganeuon gwahanol, nifer ohonynt gyda band o fechgyn lleol – Rhys James, Iestyn Jones, Dafydd James a Matthew Williams, ac wrth gwrs, ein cyfeilydd dibynadwy Kim Morgans.

Yr artistiaid eraill oedd Nia-Ann Davies, soprano; Rhys James, gitar acwstig; Côr Bechgyn Maes yr Yrfa; Carys, Emma a Lisa’n canu triawd; Rhian a Mair yn canu deuawd; Iwan Evans ar y sacsoffon; Christy McCarthy o sir Cork ar y pibau Gwyddelig ac Evita Morgan barodd i bawb chwerthin tan eu bod yn dost, fe ddaeth yr holl ffordd o Batagonia ond bu’n anffodus i beidio a darganfod gwr yn y neuadd!

band
Rhys
Y Band
Côr Seingar
Rhys James - gitar acwstig
Nia Ann Davies
Mair Jones
Rhian Williams
Nia Ann Davies - Soprano
Mair Jones
Rhian Williams
Triawd -
Côr Bechgyn Ysgol Maes yr Yrfa
Christy Mc Carthy
 
Christy Mc Carthy - Y pibydd Gwyddelig
 
Cor Seingar
Côr Seingar
Côr Seingar
Evita Morgan
Evita Morgan o Batagonia
Evita Morgan o Batagonia
     
Côr Seingar
Côr Seingar
Côr Seingar
Côr Seingar
     
Cor Seingar
Côr Seingar

Diolch i bawb ddaeth i’n cefnogi, ac i’r holl artistiaid am eu gwaith graenus.