Cor Seingar

Côr Seingar
Cefndir
Hafan Dyddiadur Swyddogion Aelodau Newyddion Elusennau Cysylltu â’r Côr Lluniau

Cliciwch isod i glywed Côr Seingar

( Cyngerdd Apêl Plant Mewn Angen S4C 2005 Neuadd San Pedr, Caerfyrddin )

Lion King
Rho im Iesu
Talu'r pris yn llawn
Carnivale
Hanes y Côr

Anodd credu bod côr Seingar wedi dathlu ei ben blwydd yn saith oed eleni.  Bu’n gyfnod prysur a chyffrous ac mae’r gwahoddiadau yn dal i gyrraedd o bob cyfeiriad. 
Braint oedd cael bod yn rhan o seremoni agoriadol Y Cwpan Ryder y llynedd yn Stadiwm y Mileniwm a chael cydweithio gyda Stifyn Pari a chasgliad o sêr byd enwog yn cynnwys Ioan Gruffudd a Catherine Zeta Jones.
Bu’r côr hefyd yn cymryd rhan ym mherfformiad Sherman Cymru  o ‘Llwyth’ yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ac ymuno â’r cast unwaith eto yng Nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o’r ddrama yn Y Llwyfan fis Medi.  Bu’r côr hefyd yn rhan o’r perfformiadau o’r ddrama yng Ngŵyl Ymylol Caeredin drwy gyfrwng recordiad a gwblhawyd yn ystod yr haf.
Yn y dyfodol agos bydd Seingar yn ymddangos ar y gyfres newydd o ‘Noson Lawen’ S4C. Ymunodd y côr gyda Hogiau’r Wyddfa, Ifan Gruffydd ac Elin Llwyd yng Nghyngerdd Coffa Nia-Wyn yn Neuadd Pontyberem ddiwedd Medi.

Yn ystod mis Hydref fe fydd Seingar yn perfformio yn Neuadd Fach Porth-y-rhyd ac yn cystadlu yn yr Ŵyl Gerdd Dant fis Tachwedd.
Prosiect mawr arall sydd ar y gweill ar hyn o bryd ydy rhyddhau cryno ddisg cyntaf y côr ac mae’r paratoi yn dod yn ei flaen yn gyflym.  Cewch fwy o wybodaeth yn fuan a chyfle i glywed y recordiad cyntaf o’r gwaith comisiwn ‘Eiliad’ – y gerddoriaeth gan Eric Jones a’r geiriau gan Catrin Dafydd, cyn aelod o’r côr.  Efallai ichi glywed perfformiad cyhoeddus cyntaf y gwaith hwn yng nghyngerdd blynyddol y côr fis Ebrill eleni.

Rydym hefyd yn manteisio ar bob cyfle posib i gymdeithasu fel côr drwy drefnu amrywiol weithgareddau sydd at ddant pawb, boed hynny’n athronyddu mewn tafarn, siopa, sgïo mewn gwlad dramor neu gasglu cleisiau niferus wrth saethu peli paent!


Os ydych am brofi nos Fawrth ddifyr ymunwch â ni i ymarfer yn festri Capel Heol Dŵr, Caerfyrddin am 7.30.

Er taw i ddod ynghyd a chanu yw prif bwrpas côr o unrhyw fath, mae’r ochr gymdeithasol yr un mor bwysig â’r ochr gerddorol, ac yn hyn o beth dyw Seingar ddim gwahanol. Mae’r côr wedi llwyddo i fod yn fan ardderchog i ymestyn cylch ffrindiau ac ehangu bywyd cymdeithasol nifer o’r aelodau, fel yr ategodd Nicki; “Ma’ sefydlu côr yn creu cymdeithas yn syth. Ma’ nifer fawr o Gymry ifanc y dre yn nabod ei gilydd nawr a heb y côr fydden nhw ddim wedi cwrdd."

Soprano
Alto
Tenor
Bas
Geraint